Graffiti Pentre Ifan yn destun "pryder"
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un ag unrhyw wybodaeth ynglŷn â graffiti sydd wedi ymddangos ar gerrig siambr gladdu Pentre Ifan i gysylltu â nhw.
Rhannodd tîm troseddau cefn gwlad Heddlu Dyfed-Powys lun o'r graffiti ar eu cyfrif trydar dros y penwythnos.
Yn ôl swyddog o'r tîm, Esther Davies, mae peryg y gall y graffiti a'r broses o'i lanhau "achosi difrod sylweddol i'r cen sy'n tyfu ar y cerrig".
Ychwanegodd fod y safle yn rhan o hanes a threftadaeth Cymru, a'i bod hi'n "bryder fod pobl yn teimlo eu bod nhw'n gallu gwneud y fath niwed".