System daliadau tywydd oer yn 'annheg', medd AS

Gall miloedd o bobl fregus yng Nghymru fod yn colli allan ar daliadau tywydd oer oherwydd y ffordd mae'r system yn cael ei asesu, yn ôl Aelod Seneddol.

Dywedodd AS Arfon Hywel Williams fod pobl sy'n byw yn ardaloedd mynyddig y gogledd a chymoedd y de yn cael eu trin yn annheg yn ystod cyfnodau hir o dywydd oer gan fod taliadau yn seiliedig ar ddarlleniadau tymheredd mewn ardaloedd arfordirol mwynach.

Mae taliadau o'r fath, sy'n £25, yn cael eu rhoi i bobl sy'n derbyn budd-daliadau - gan gynnwys nifer o bensiynwyr a phobl anabl - pan mae'r tymheredd yn disgyn yn is na 0 selsiws am saith diwrnod yn olynol.

Ond mae taliadau i bobl yn ardaloedd mynyddig Arfon, er enghraifft, yn ddibynnol ar y tymheredd tua 20 milltir i ffwrdd ym Mona, Ynys Môn.

Yn ôl Mr Williams, mae 'na "nam elfennol yn y system".

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau'r DU eu bod yn ailedrych ar y cynllun yn flynyddol, ac yn ystyried cyfraniadau gan y Swyddfa Dywydd, aelodau seneddol a'r cyhoedd.