Cicio'r bar ar ben-blwydd Prifysgol Aberystwyth
Ydych chi erioed wedi cicio'r bar yn Aberystwyth?
Mae'r traddodiad yn dyddio 'nôl i ddechrau'r 20fed ganrif, ble mae pobl yn cerdded ar hyd promenâd y dref cyn cicio bar metel wrth droed Craig-glais.
Bydd staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr ac aelodau'r gymuned yn teithio i gicio'r bar ddydd Gwener i nodi agoriad Prifysgol Aberystwyth yn 1872.