Cynllun cyswllt fideo E-sgol yn 'hynod o gyffrous'

Mae'r defnydd o gysylltiad fideo rhwng ysgolion wedi cael ei lansio fel rhan o gynllun i gefnogi addysg mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru.

Cafodd y syniad ei fabwysiadu gyntaf mewn rhannau o'r Alban.

Nod prosiect E-sgol yw cysylltu disgyblion ac ysgolion mewn mannau anghysbell fel bod ganddyn nhw ddewis ehangach o bynciau.

Y cyntaf i roi cynnig arni yng Nghymru oedd disgyblion Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan, gyda'r pennaeth yn disgrifio'r cynllun fel un "hynod o gyffrous".