Lluniau: Pan ddaeth storm Callum i Gymru
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n benwythnos pryderus ac anodd i nifer o bobl wrth i storm Callum chwythu ei ffordd ar draws rhannau helaeth o Gymru gan adael difrod mawr ar ei ôl.
Dyma olwg ar rai o ddelweddau'r penwythnos:
Cafodd tîm rygbi Dolgellau dipyn o hwyl yn ceisio chwarae'u gêm ar gaeau'r Marian Ddydd Sadwrn ar ôl y glaw trwm.
Crug Hywel dan ddŵr.
Roedd y dŵr ym Mae Caerdydd wedi codi dros y llwybr ger yr harbwr.
Dyma sut oedd hi i bicio i'r siop yn Llanbedr Pont Steffan Ddydd Sadwrn....
Maes parcio archfarchnad Co-operative Llanbedr Pont Steffan yn gyfangwbl dan ddŵr.
Roedd y dŵr yn eithriadol o uchel yn Aberaeron, gan droi rhai o'r cychod yn yr harbwr ar eu hochr.
Roedd Y Marian yn Nolgellau yn debycach i bwll nofio erbyn diwedd y prynhawn.
Dŵr yn llifo oddi ar y caeau oedd yn gyfrifol am lawer o'r difrod a'r llifogydd.
Gyrrwr yn ceisio mynd drwy'r dyfroedd yn Ffairfach Ddydd Sadwrn.
Coeden yn disgyn ar ben car yng Nghaerdydd.
Rhai o drigolion Llanbed yn manteisio ar y llifogydd mewn ffordd anarferol
Roedd y gwasanaethau brys yn brysur iawn dros y penwythnos.
Mwy am y storm!