Sain Ffagan: 'Nabod y bobl

  • Cyhoeddwyd

Mae safle Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan yn dathlu ehangiad i'w safle yn dilyn prosiect chwe blynedd o ailddatblygu.

Mae'r gwelliannau wedi costio £30m, gyda'r nawdd yn dod gan y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill.

Mae'r prif adeilad wedi ei drawsnewid yn llwyr, gan gynnwys mynedfa gwbl newydd. Ymysg yr atyniadau newydd mae tair oriel newydd, un o lysoedd Llywelyn o'r 13eg ganrif, a fferm Bryn Eryr, sy'n seiliedig ar safle archeolegol o gyfnod y Rhufeiniaid.

Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth fwyaf poblogaidd Cymru ac mae'n dathlu 70 mlynedd eleni. Ond beth am y bobl sy'n gweithio yn yr amgueddfa? Pwy ydyn nhw a beth yw eu hanes?

Aeth Cymru Fyw i Amgueddfa Sain Ffagan i gyfarfod rhai o'r staff.

Dwy sydd yn gweithio yn y dderbynfa yw Kathryn Rees ac Abby Williams. Mae'r brif fynedfa wedi ei thrawsnewid yn ddiweddar gydag ardal newydd dan do a bwyty newydd.

Dafydd Lewis o Lantrisant yw rheolwr y siop losin a'r siop groser, Gwalia Stores. Dywedodd Dafydd: "Dwi ddim jest yn rhedeg dwy siop, mae'n rhan o gyd-destun ehangach sy'n gwerthu'r profiad yn ogystal â chynnyrch Cymreig."

Mae Sain Ffagan ymhlith yr amgueddfeydd awyr agored mwyaf poblogaidd o ran niferoedd ymwelwyr yn Ewrop ac mae tua 500,000 o bobl yn ymweld bob blwyddyn.

Mae Elin Barker o Gaerfyrddin yn gweithio yn yr amgueddfa ers pum mis. Cyn hynny, roedd hi'n astudio celf ym Mhrifysgol Falmouth.

"Dwi'n mwynhau gweithio yma achos dwi'n hoff o'r elfennau celf gweledol. Fy hoff le i weithio ar y safle yw fferm Llwyn yr Eos, gan ei fod yn fy atgoffa o fynd i fferm fy mam-gu pan oeddwn yn blentyn."

Mae Hywel Jones wedi bod yn un o'r gofalwyr yn Sain Ffagan ers Tachwedd 1999. Mae Hywel yn wreiddiol o Aberaeron, ac mae'n dweud ei fod yn mwynhau'r amrywiaeth a'r ffaith ei fod yn cael adeilad newydd i ofalu amdano yn wythnosol.

Agorodd Sain Ffagan i'r cyhoedd yn 1948. Pennaeth yr amgueddfa o 1948 i 1971 oedd Dr Iorwerth C Peate. Ei ysbrydoliaeth oedd amgueddfeydd awyr agored Sgandinafia, a'i fagwraeth yn Llanbrynmair.

Mae Maxine yn gweithio yn y siop Gwalia Stores ers Mehefin 2017. "Mae'n hyfryd a chynnes yma a'n fy atgoffa o mhlentyndod pan oedd bywyd yn fwy syml. Mae pobl wirioneddol wrth eu boddau yn dod i'r siop yma ac mae wir yn bleser i weithio yma."

Mae Rachel Tilley yn dod o'r Barri ac yn gweithio yn Sain Ffagan ers 15 mlynedd. Mae hi'n gweithio yn yr adran addysg am flwyddyn ac yn dweud ei bod yn "mwynhau amrywiaeth y swydd - rhywbeth gwahanol yn digwydd bob dydd."

Y Talwrn Ceiliogod yng nghanol lliwiau'r Hydref. Yn Ninbych oedd y talwrn yn wreiddiol ond yn 1965 fe benderfynwyd ei adfer, a chafodd y gwaith o'i symud a'i ail-adeiladu yn Sain Ffagan ei gwblhau yn 1970.

Sam Peterson, sy'n wreiddiol o Sir Benfro, ger y tân yn Ffermdy Kennixton. Symudodd Sam i Gaerdydd i astudio yn y brifysgol a dechreuodd weithio gyda'r amgueddfa yn rhan amser dros gyfnod y Pasg, ond mae bellach yn gweithio yno llawn amser.

Dim ond ers pythefnos mae Megan Smith wedi bod yn gweithio yn Sain Ffagan. Mae hi am ddychwelyd i'r Brifysgol yn Efrog ond yn mwynhau'r profiad o weithio yn yr amgueddfa.