Criwiau achub yn paratoi am gwch cyflym newydd
Mae 'na fadau achub newydd sbon yn cael eu rhoi i griwiau ar draws Cymru, a gorsaf Llandudno o'dd y gynta' i gael y "Shannon" sy'n un o'r cychod cyflyma' o'i fath.
Er mwyn defnyddio'r cwch mae'n rhaid cael oriau lawer o hyfforddiant ychwanegol gyda chriw'r Bermo wrthi'n paratoi ar hyn o bryd ar gyfer y bad achub newydd fydd yn cyrraedd yn y gwanwyn.
Dyma adroddiad Elen Wyn.