Guto Bebb: 'Dal y llywodraeth yn wystl'
Mae cynnig Theresa May i ymestyn y cyfnod trosglwyddo ar ôl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn "achosi problemau", yn ôl cyn-weinidog Ceidwadol.
Daw rhybudd AS Aberconwy Guto Bebb wrth iddo ddweud bod proses Brexit yn "achosi niwed go iawn i hygrededd y llywodraeth".
Mae'r Prif Weinidog wedi codi'r posibilrwydd o oedi gadael yr UE am "ychydig fisoedd" tan ddiwedd 2021, i sicrhau nad oes ffin galed yng Ngogledd Iwerddon. Ond dydi hi ddim yn y credu y bydd angen defnyddio'r syniad yn y pen draw.
Ychwanegodd fod carfanau o'r blaid Geidwadol sydd yn ceisio sicrhau'r Brexit perffaith yn "defnyddio siambr Tŷ'r Cyffredin fel modd o ddal y llywodraeth yn wystl".