'Trafferthion sylweddol' yn sgil Brexit

Mae cynnig Theresa May i ymestyn y cyfnod trosglwyddo ar ôl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn "achosi problemau", yn ôl cyn-weinidog Ceidwadol.

Daw rhybudd AS Aberconwy Guto Bebb wrth iddo ddweud bod proses Brexit yn "achosi niwed go iawn i hygrededd y llywodraeth".

Mae'r Prif Weinidog wedi codi'r posibilrwydd o oedi gadael yr UE am "ychydig fisoedd" tan ddiwedd 2021, i sicrhau nad oes ffin galed yng Ngogledd Iwerddon. Ond dydy hi ddim yn y credu y bydd angen defnyddio'r syniad yn y pen draw.

Ychwanegodd Mr Bebb y gallai Brexit arwain at "drafferthion sylweddol" i'r Blaid Geidwadol ac i economi Cymru a'r DU.