Sain Ffagan: 'Nabod y bobl // St Fagans: A day at the Museum
- Cyhoeddwyd
Mae safle Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan yn dathlu ehangiad i'w safle yn dilyn project chwe blynedd o ailddatblygu.
Mae'r gwelliannau wedi costio £30 miliwn, gyda'r nawdd yn dod gan y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill.
Mae'r prif adeilad wedi ei drawsnewid yn llwyr, gan gynnwys mynedfa gwbl newydd. Ymysg yr atyniadau newydd mae tair oriel newydd, un o lysoedd Llywelyn o'r 13eg ganrif, a fferm Bryn Eryr, sy'n seiliedig ar safle archeolegol o gyfnod y Rhufeiniaid.
Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth fwyaf poblogaidd Cymru ac mae'n dathlu 70 mlynedd eleni. Ond beth am y bobl sy'n gweithio yn yr amgueddfa? Pwy ydyn nhw a beth yw eu hanes?
Aeth Cymru Fyw i Amgueddfa Sain Ffagan i gyfarfod rhai o'r staff.
St Fagans National Museum is celebrating the completion of major redevelopments to the site which was six years in the making.
The improvements to the museum cost £30m, with money coming from the National Lottery through the Heritage Lottery Fund, the Welsh Government and others.
The main building has been totally transformed, including a brand new reception area. Among the new attractions are three new galleries, one of Prince Llywelyn's courts from the 13th century and the Bryn Eryr Iron Age farm.
St Fagans, Wales' largest and most popular heritage attraction, is celebrating its 70th anniversary this year. But what about the people who work there? Who are they and what is their story?
Cymru Fyw went to the museum to meet some of the staff.
Dwy sydd yn gweithio yn y dderbynfa yw Kathryn Rees ac Abby Williams. Mae'r brif fynedfa wedi ei drawsnewid yn ddiweddar gydag ardal newydd dan do a bwyty newydd.
Kathryn Rees and Abby Williams both work at the main reception. The main entrance now includes new spaces with a new hall and a new restaurant.
Dafydd Lewis o Lantrisant yw rheolwr y siop losin a'r siop groser, Gwalia Stores. Dywedodd Dafydd: "Dwi ddim jest yn rhedeg dwy siop, mae'n rhan o gyd-destun ehangach sy'n gwerthu'r profiad yn ogystal â chynnyrch Cymreig."
Dafydd Lewis is from Llantrisant and he is the manager of the sweet shop and the grocer's, Gwalia Stores. "I'm not only running two shops, it's part of a wider context that provides an experience as well as Welsh produce."
Mae Sain Ffagan ymhlith yr amgueddfeydd awyr agored mwyaf poblogaidd o ran niferoedd ymwelwyr yn Ewrop, ac mae tua 500,000 o bobl yn ymweld bob blwyddyn.
St Fagans is one of the most visited open-air museums in Europe with around 500,000 visitors annually.
Mae Elin Barker o Gaerfyrddin yn gweithio yn yr amgueddfa ers pum mis. Cyn hynny, roedd hi'n astudio celf ym Mhrifysgol Falmouth.
"Dwi'n mwynhau gweithio yma achos dwi'n hoff o'r elfennau celf gweledol. Fy hoff le i weithio ar y safle yw fferm Llwyn yr Eos, gan ei fod yn fy atgoffa o fynd i fferm fy mam-gu pan oeddwn yn blentyn."
Elin Barker is from Carmarthen and has been working at the museum for five months. Before that she studied art at Falmouth University.
"I enjoy working here because of my experiences with visual arts. My favourite place at the museum is Llwyn yr Eos farm, as it reminds me of going to my mam-gu's farm when I was a child."
Mae Hywel Jones wedi bod yn un o'r gofalwyr yn Sain Ffagan ers Tachwedd 1999. Mae Hywel yn wreiddiol o Aberaeron, ac mae'n dweud ei fod yn mwynhau'r amrywiaeth a'r ffaith ei fod yn cael adeilad newydd i ofalu amdano yn wythnosol.
Hywel Jones has worked at St Fagans since November 1999. Hywel's originally from Aberaeron, and he says that he enjoys the variety in the job and the fact that he looks after a different building every week.
Agorodd Sain Ffagan i'r cyhoedd yn 1948. Pennaeth yr amgueddfa o 1948 i 1971 oedd Dr Iorwerth C Peate. Ei ysbrydoliaeth oedd amgueddfeydd awyr agored Sgandinafia, a'i fagwraeth yn Llanbrynmair.
St Fagans opened to the public in 1948. The head of the museum between 1948 and 1971 was Dr Iorwerth Peate. His inspiration for the museum was an open-air museum in Scandinavia, as well as his upbringing in Llanbrynmair.
Mae Maxine Allinson yn gweithio yn y siop Gwalia Stores ers Mehefin 2017. "Mae'n hyfryd a chynnes yma a'n fy atgoffa o mhlentyndod pan oedd bywyd yn fwy syml. Mae pobl wirioneddol wrth eu boddau yn dod i'r siop yma ac mae wir yn bleser i weithio yma."
Maxine Allison has worked at the Gwalia Stores since June 2017. "It's lovely and warm here and it reminds me of my childhood when things were very much simpler. People genuinely love coming to the shop and it's a pleasure to work here."
Mae Rachel Tilley yn dod o'r Barri ac yn gweithio yn Sain Ffagan ers 15 mlynedd. Mae hi'n gweithio yn yr adran addysg am flwyddyn ac yn dweud ei bod yn "mwynhau amrywiaeth y swydd - rhywbeth gwahanol yn digwydd bob dydd."
Rachel Tilley from Barry has worked at St Fagans for 15 years. She's working in the education department for a year and says that she "enjoys the variety of the job - there's something different every day!"
Y Talwrn Ceiliogod yng nghanol lliwiau'r Hydref. Yn Ninbych oedd y talwrn yn wreiddiol ond yn 1965 fe benderfynwyd ei adfer, a chafodd y gwaith o'i symud a'i ail-adeiladu yn Sain Ffagan ei gwblhau yn 1970.
The cockfighting pit. It was originally in Denbigh but in 1965 it was decided to salvage it and the job of rebuilding it at St Fagans was completed in 1970.
Sam Peterson, sy'n wreiddiol o Sir Benfro, ger y tân yn Ffermdy Kennixton. Symudodd Sam i Gaerdydd i astudio yn y brifysgol a dechreuodd weithio gyda'r amgueddfa yn rhan amser dros gyfnod y Pasg, ond mae bellach yn gweithio yno llawn amser.
Sam Peterson, who's originally from Pembrokeshire, sitting next to the fire at the Kennixton Farmhouse. Sam moved to Cardiff to study and started working at the museum part time over Easter. He now works there full time.
Dim ond ers pythefnos mae Megan Smith wedi bod yn gweithio yn Sain Ffagan. Mae hi am ddychwelyd i'r Brifysgol yn Efrog ond yn mwynhau'r profiad o weithio yn yr amgueddfa.
Megan Smith has only worked at St Fagans for a fortnight. She will be returning to study at York University but says she really enjoys the experience of working at the museum.