Ail-greu'r arwisgo: 'Dim llawer o ffydd y bydd tegwch'
Mae un o brotestwyr amlwg yn erbyn yr arwisgiad brenhinol yn 1969 yn gobeithio y bydd ffilmio yng Nghaernarfon ar gyfer cyfres boblogaidd The Crown yn adlewyrchu darlun "cyflawn" o'r cyfnod.
Mae Netflix, cwmni Americanaidd sydd â dros 100 miliwn o danysgrifwyr, wedi cadarnhau y byddan nhw'n ail-greu arwisgiad Tywysog Cymru yng nghastell y dref ym mis Tachwedd.
Roedd Dafydd Iwan a'i ganeuon yn rhan amlwg o'r protestio - ac mae'n bwysig meddai bod y cynhyrchwyr "rŵan yn adlewyrchu'r darlun cyflawn".