Galw am fwy o athrawon sy'n deall iaith arwyddo

Mae 'na alw am fwy o wasanaethau a chymorth ar gyfer plant a phobl ifanc byddar yn ysgolion Cymru.

Mewn cynhadledd ym Mangor, dywedodd trefnwyr eu bod yn poeni nad oes digon o athrawon sy'n medru cyfathrebu drwy ddefnyddio iaith arwyddo.

Dywed Llywodraeth Cymru bod yna ymrwymiad i greu system addysg gynhwysol i bawb, a bod cefnogaeth ar gael i hawliau disgbylion i gael addysg drwy'r iaith arwyddo pan fo'r angen.

Elen Wyn fu'n clywed mwy.