Cymuned mewn sioc wedi marwolaeth plentyn
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth plentyn tair oed ar y ffin rhwng Ceredigon a Sir Gaerfyrddin.
Bu farw Evan Lloyd Williams wedi gwrthdrawiad yn ardal Gorsgoch, ger Llanybydder ddydd Sul
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Yn drist iawn bu farw'r plentyn yn y fan a'r lle. Mae ein meddyliau gyda'r teulu, sy'n derbyn cymorth swyddogion arbenigol yr heddlu.
Ychwanegodd eu bod hefyd wedi rhoi gwybod am y digwyddiad i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a swyddfa'r crwner.
Dywedodd y cynghorydd sir lleol Euros Davies fod y newyddion wedi bod yn sioc fawr i'r gymuned leol ac y byddant yn gwneud popeth i gefnogi'r teulu.