'Pryder' am ddiswyddiadau gorfodol Prifysgol Bangor

Mae'n bosib y bydd yn rhaid i Brifysgol Bangor ystyried diswyddiadau gorfodol wrth geisio arbed £5m, yn ôl gwybodaeth a ddaeth i law rhaglen Newyddion 9 y BBC.

Mewn llythyr at staff, mae'r Is Ganghellor, Yr Athro John Hughes, yn rhybuddio bydd toriadau pellach y flwyddyn nesaf.

Bydd y brifysgol yn ymgynghori gydag undebau dros y misoedd nesaf.

Mae AC Arfon, Siân Gwenllïan wedi ymateb drwy alw'r sefyllfa'n "ofid mawr."