'Gweddnewid' y gefnogaeth i ddisgyblion
Mae Heddlu Gwent wedi lansio cynllun peilot sy'n rhoi gwybod i awdurdodau lleol ac ysgolion os ydyn nhw wedi gorfod ymateb i ddigwyddiad niweidiol mewn cartref disgybl.
Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynnwys camdriniaeth rywiol, gorfforol neu emosiynol, neu brofiad o drais domestig, salwch meddwl, a chamdriniaeth alcohol neu gyffuriau.
Dywedodd Huw Lloyd, sy'n bennaeth ar ysgol yng Nglyn Ebwy, fod y cynllun am "weddnewid y sefyllfa" a'u galluogi i "ymateb yn gloi" er mwyn cefnogi disgyblion.