'Adnoddau yn hollbwysig i blant ac athrawon'

Dylai Cyngor Gwynedd ohirio gwneud penderfyniad ar gau dwy ysgol yng Ngwynedd gan fod y sefyllfa wedi newid erbyn hyn, yn ôl cynghorydd.

Yr argymhelliad i'r cabinet ydy i gau ysgolion Glanadda a Choedmawr ym Mangor a symud y disgyblion i adeilad newydd Ysgol y Garnedd.

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei chodi ar gost o dros £18m gerllaw'r un bresennol - sydd yn orlawn.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, sydd â chyfrifoldeb am addysg ar gabinet Cyngor Gwynedd, byddai'r ysgol newydd yn cynnig darpariaeth o'r radd flaenaf.

Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld pob plentyn yn y sir yn derbyn yr adnoddau gorau phosib, ond bod datblygu hynny yn "broses araf deg".