'Y’n ni wedi dysgu dim o'r ddau ryfel byd'
Bu farw hen-ewythr Enfys Davies, Dan Lewis, yn nyddiau olaf y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd clychau eglwys Llanfair Orllwyn yn canu i nodi fod y rhyfel ar ben pan glywodd y teulu na fyddai Dan yn dychwelyd.
Nid gan ei theulu y cafodd Enfys yr hanes, ond yn hytrach mewn hen erthygl bapur newydd.
Ym marn Ms Davies, dyw cymdeithas wedi "dysgu dim" o'r ddau ryfel byd, sy'n cael ei ddangos gan y ffaith ein bod "yn dal yn rhyfela".