Llanidloes yn 'troi'n goch' ar gyfer Sul y Cofio

Mae aelodau'r Lleng Brydeinig yn Llanidloes wedi "troi'r dref yn goch" ar gyfer Sul y Cofio.

Gan ei bod hi'n 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf penderfynodd yr aelodau bod angen gwneud rhywbeth arbennig ar gyfer y cofio eleni.

Y nod gwreiddiol oedd codi 100 o babïau ar bolion lamp trwy'r dref, ond erbyn hyn mae dros 50 o fusnesau wedi addurno eu ffenestri, mae murluniau newydd wedi'u paentio ac mae dros 2,000 o babïau gwlân wedi'u gosod ar ffurf rhaeadr i lawr grisiau neuadd y dref.

Bu'r Cynghorydd Gareth Morgan yn sôn am yr ymdrech fawr sydd wedi'i gwneud gan ferched sy'n aelodau o'r Lleng Brydeinig yn Llanidloes, er mwyn cofio pobl o'r dref a wnaeth yr aberth fwyaf.