Cofio Hedd Wyn ar draeth Bae Colwyn

Mae artistiaid tywod wedi creu portread trawiadol o Hedd Wyn ar draeth Bae Colwyn, i goffau'r Prifardd a fu farw yn y Rhyfel Mawr.

Mae'r gwaith yn rhan o gomisiwn Cadoediad y cyfarwyddwr Danny Boyle, 'Pages of the Sea', sydd yn cael ei ail-greu ar draws 30 o draethau ym Mhrydain ac Iwerddon.

Mae pedwar portread mawr o Gymry a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael eu llunio ar draethau gan artistiaid tywod.

Roedd y darluniau yng Nghymru i'w gweld ar draethau Abertawe, Bae Colwyn, Freshwater West yn Sir Benfro, ac Ynyslas yng Ngheredigion.

Bydd y portreadau yn cael eu golchi ymaith wrth i'r llanw ddod i mewn, ac mae'r trefnwyr hefyd wedi gofyn i'r cyhoedd greu silwetau o bobl yn y tywod i gofio'r miliynau o fywydau eraill a gollwyd.