'Plant iau yn cael budd o fod yng nghwmni plant hŷn'
Dylai hi fod yn haws i blant sy'n cael eu geni yn yr haf ddechrau'r ysgol flwyddyn yn hwyrach, yn ôl ymgyrchwyr.
Ar hyn o bryd mae cynghorau Cymru'n gallu gwrthod ceisiadau i wneud hynny heb unrhyw esboniad, ond mae rhieni am weld Llywodraeth Cymru'n cynnig arweiniad cadarn.
Mae rhai yn galw am fwy o hyblygrwydd i'r plant sydd wedi eu geni'n hwyr yn y flwyddyn ysgol er mwyn rhoi mwy o amser iddyn nhw ddatblygu.
Ond yn ôl Manon Paschalis, sy'n gyfrifol am Cylch Meithrin y Parc yng Nghaerdydd, mae pob sefyllfa'n wahanol, ac o'i phrofiad hi mae plant iau yn aml yn gallu cael budd o fod yng nghwmni rhai hŷn.