25 mlynedd o waith yn San Steffan

A hithau'n gyfnod tymhestlog yn San Steffan wrth i drafodaethau ar gytundeb drafft Brexit barhau, bu Cymru Fyw yn holi rhywun sy'n adnabod y lle yn well na bron unrhyw un arall.

Mae Rhian Medi Roberts wedi bod yn rhan o wleidyddiaeth San Steffan ers 25 mlynedd.

Yn y cyfnod yna mae 'na lawer o newid wedi bod, ac mae hi'n dweud ei fod yn dal i newid yn gyson.