Targed amser newydd yn rhoi 'mwy o gefnogaeth' i gleifion
Mae ymgynghorwyr ac elusennau yn gobeithio y bydd cyflwyno un targed amser newydd i gleifion canser yng Nghymru yn cyflymu diagnosis a gwella cyfraddau goroesi.
Y gobaith yw y bydd cyflwyno "Un Llwybr Canser" yn caniatáu i'r system adnabod yn well lle mae'r rhwystrau yn digwydd er mwyn blaenoriaethu buddsoddiad i'w datrys.
Mae astudiaethau rhyngwladol yn dangos fod cyfraddau goroesi canser yn y DU, ac yn enwedig yng Nghymru, yn wael iawn o'i gymharu â llawer o wledydd Ewropeaidd neu wledydd eraill â systemau gofal iechyd tebyg.
Yn ôl Dr Huw Jones, ymgynghorydd yn Ysbyty Glan Clwyd, bydd y cynllun newydd yn golygu bod mwy o gefnogaeth i gleifion canser: "Ar y funud, dyw rhai o'n cleifion ni ddim yn cael dim cefnogaeth am fisoedd ac yn byw a'n poeni bod y ddrwgdybiaeth yna."