Cwmni'n 'chwalu rhwystrau' coesau ffug
Mae elusen yn dweud gallai teclyn gorchuddio coesau prosthetig wneud "gwahaniaeth mawr" i hyder y rheiny sydd wedi colli coesau.
Mae cwmni Limb Art o ardal Dinbych wedi ennill gwobr am eu gorchuddion, sydd yn aml yn lliwgar neu'n dangos symbolau.
Yn ôl y sylfaenydd, Mark Williams, mae chwalu rhwystrau ac annog pobl i fod yn falch o'u coesau ffug yn rhan o'r nod.
Dywedodd: "Mae'n rhoi'r hyder i bobl fynd allan a bod eraill yn edrych ar y celf, nid y prosthetig."