Gwisg ysgol yn atal 'sioe ffasiwn' yn ôl pennaeth
Bydd mwy o bwysau ar ysgolion i sicrhau bod gwisgoedd ysgol fforddiadwy ar gael i blant yn sgil canllawiau "cryfach" newydd.
Mae Llywodraeth Cymru'n gofyn am farn disgyblion a rhieni am y canllawiau, fyddai hefyd yn dweud na ddylai ysgolion ofyn am eitemau dillad penodol yn ôl rhyw.
Yn Ysgol Gynradd Glan Morfa yn ardal Sblot yng Nghaerdydd mae cynllun ailgylchu gwisgoedd ysgol ar waith.
Dywedodd pennaeth yr ysgol, Meilir Tomos bod gwisg ysgol yn gwella disgyblaeth ac yn atal "sioe ffasiwn".