'Fi fyddai wedi bod y myfyriwr Astudiaethau Celtaidd olaf'

Mae Coleg yr Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen wedi cadarnhau bod mwy na £3.25m wedi'i godi i ailsefydlu'r cwrs Astudiaethau Celtaidd yno.

Mae Cymry wedi gwneud gwaith ymchwil ôl-raddedig ar y Gymraeg a'i llenyddiaeth o dan yr Athro Celteg - neu'r Gadair Geltaidd - yn y brifysgol ers 1877.

Ond daeth yr ariannu gan y brifysgol i ben yn dilyn ymddeoliad yr Athro Thomas Charles-Edwards ym mis Medi 2011.

Mae Daniel Taylor, o Abertawe, yn astudio Almaeneg ochr yn ochr ag Astudiaethau Celtaidd yn Rhydychen.

Roedd yn ofni mai ef fyddai'r myfyriwr olaf i wneud y cwrs Astudiaethau Celtaidd wedi i'r ariannu ddod i ben.

"Mae'n gwrs unigryw a byddai ei golli [wedi bod] yn erchyll," meddai.