Cynnydd yn nifer y plant digartref dros y Nadolig

Bydd mwy na 1,500 o blant yn ddigartref yng Nghymru dros y Nadolig eleni, yn ôl elusen Shelter Cymru.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos cynnydd o 20% yn nifer y plant digartref yn y tair blynedd diwethaf.

Roedd Elin T Jones o Lanbedr Pont Steffan yn wynebu ansicrwydd mawr tua 10 mlynedd yn ôl.

Bellach yn gynghorydd tref yn Llanbed, mae hi'n dweud ei bod hi'n ddiolchgar i Shelter Cymru am ddod i'r adwy yn ystod yr amseroedd anodd hynny.

Mae hi'n honni ei bod wedi colli ei swydd am ei bod yn feichiog ac "roedd hi'n edrych fel 'mod i'n mynd i golli fy nhŷ," meddai.

"Ro'n i'n ddiolchgar iawn pan wnaeth Shelter Cymru sefyll i mewn, a nawr dwi'n edrych i helpu pobl eraill sydd yn yr un sefyllfa ag o'n i."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi dros £30m eleni a'r flwyddyn nesaf er mwyn delio â digartrefedd.

Ond mae'n cydnabod fod y nifer sydd angen cymorth yn cynyddu wrth i deuluoedd geisio cadw dau ben llinyn ynghyd.