Edrych nôl ar Yr Wyddfa 2018
- Cyhoeddwyd
Mae'r olygfa ar draws Llyn Padarn tuag at Yr Wyddfa yn un o rai mwyaf eiconig Cymru. Yn ystod 2018, fe aeth Cymru Fyw i'r un lleoliad bob mis er mwyn tynnu llun ohoni.
Blwyddyn Newydd Dda gan dîm Cymru Fyw!

Yr haul yn codi tu ôl i Grib Goch ar ddechrau blwyddyn newydd ym mis Ionawr 2018

Dyma un ffordd i osgoi'r lonydd rhewllyd wrth i eira trwm ddisgyn ym mis Chwefror

Mis Mawrth, a'r eira'n parhau ar dir uchel

Golau ola'r diwrnod wrth i'r dydd ddechrau ymestyn ym mis Ebrill

"Gwn ei ddyfod mis y mêl, gyda'i firi, gyda'i flodau" - mis Mai

Yr olygfa yma o bont Pen Llyn wnaeth ysbrydoli R Williams Parry yn ei gerdd Tylluanod - "Pan siglai'r hwyaid gwylltion wrth angor dan y lloer"

Mae'r dŵr yn isel yn Llyn Padarn ar ôl haul a sychder Gorffennaf - ac yn ddigon cynnes i rai nofio ynddo, os edrychwch yn ofalus ar ochr chwith y llun

Yr hen draddodiad Cymreig o gael glaw ym mis Awst

Mis Medi ac "aros mae'r mynyddau mawr, rhuo drostynt mae y gwynt"

Y dail wedi troi eu lliw a'r mynyddoedd yn dangos arwydd cyntaf o'r gaeaf

Tachwedd - y "mis dig du"

Y wawr yn torri uwchben Eryri wrth i 2018 dynnu at ei therfyn
Lluniau: Bryn Jones

Efallai hefyd o ddiddordeb: