Drakeford: 'Cyfle i wneud pethau yn wahanol'
Mae sawl cam i'w oresgyn cyn penodi Mark Drakeford yn ffurfiol fel Prif Weinidog nesaf Cymru, gan gynnwys pleidlais ymhlith ACau yn y Senedd yr wythnos nesaf.
Serch hynny, gyda'r Democrat Rhyddfrydol, Kirsty Williams a'r aelod annibynnol, Dafydd Elis-Thomas yn debygol o gefnogi enwebiad y blaid Lafur, fe all yr Ysgrifennydd Cyllid presennol ddechrau ystyried pwy all ymuno ag e i ffurfio Llywodraeth Cymru ar ôl iddo gael ei ethol yn arweinydd newydd Llafur Cymru ddydd Iau.
Wrth ganmol "cyfnod llwyddiannus" ei ragflaenydd, Carwyn Jones, dywedodd Mr Drakeford bod cyfle i wneud rhai pethau yn wahanol yn y dyfodol, gan gynnwys newidiadau i'r ffordd y mae cabinet Llywodraeth Cymru yn cael ei redeg.