Cymwysterau technoleg gwybodaeth yn 'hen ffasiwn'
Dydy'r teclynnau diweddaraf fel ffonau clyfar ddim yn cael eu hadlewyrchu o fewn cymwysterau technoleg gwybodaeth, yn ôl adroddiad newydd.
Yn ôl ymchwil gan y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, mae angen diwygio'r cymwysterau "yn eu hanfod" gan nad ydyn nhw "yn gymwys mwyach".
Dywedodd un o awduron yr adroddiad, Gareth Downey bod yr arolwg yn beirniadu cymwysterau technoleg gwybodaeth mewn ysgolion am fod yn "hen ffasiwn".