Sefyllfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn 'gwbl anghynaladwy'
Gallai cynlluniau mawr i ailstrwythuro prif gorff amgylcheddol Cymru "gyfaddawdu'n ddifrifol" ar ei allu i warchod natur ac amharu'n bellach ar ei enw da, yn ôl staff.
Daw'r rhybudd mewn adroddiad gafodd ei baratoi ar gyfer penaethiaid Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sydd wedi dod i law y BBC.
Dywedodd CNC ei bod wedi gwrando ar yr adborth a'i bod am addasu ei gynlluniau.
Mae llefarydd Plaid Cymru dros yr amgylchedd, Llyr Gruffydd, yn disgrifio'r sefyllfa fel un "cwbl anghynaladwy", gan ychwanegu mai diffyg adnoddau sydd wedi arwain at y "fath adwaith gan staff".