Hawl i gaffis Aberystwyth weini bwyd a diod ar y prom

Fe fydd gan fwytai a chaffis yn Aberystwyth yr hawl yr haf hwn i weini bwyd a diod ar y prom, a hynny am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd.

Oherwydd telerau cytundeb gyda Chyngor Sir Ceredigion sy'n dyddio'n ôl i'r 1990au, dim ond un caffi oedd â'r hawl i wneud hynny.

Ond nawr, yn sgil les newydd, mae busnesau eraill yn gobeithio manteisio.

Dyma adroddiad Iwan Griffiths.