Rhybudd bydd pobl yn cefnu ar addysg Gymraeg ym Mhontypridd

Mae ymgyrchwyr ym Mhontypridd yn rhybuddio y bydd pobl yn cefnu ar addysg Gymraeg os nad yw hwnnw ar gael yn lleol.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ystyried cau Ysgol Gynradd Pont Sion Norton ac agor ysgol newydd i'r de o Bontypridd ym mhentref Rhydyfelin.

Mae nifer o rieni'n dadlau bod hynny'n anghyfleus ond mae'r cyngor yn mynnu bod mwyafrif y plant eisoes yn teithio ar fysys.

Dyma adroddiad Owain Evans.