Cynllun peilot i roi bagiau bin neilon yn Aberystwyth

Fe fydd trigolion Aberystwyth sydd wedi bod yn cwyno am broblem gwylanod yn creu llanast ar y strydoedd y dref yn cael bagiau sbwriel cryfach fel rhan o gynllun peilot.

Mae'r cyngor wedi derbyn nifer o gwynion am wylanod yn achosi llanast wrth ymosod ar fagiau sbwriel yn y dre' glan y môr.

Nawr bydd trigolion ar ddwy stryd yn cael cynnig bagiau neilon mawr i rwystro'r adar rhag rhwygo'r plastig.