Moment wnaeth dyn a fu farw ruthro o gell at yr heddlu
Dyma'r foment wnaeth dyn a fu farw yn nalfa'r heddlu yn Hwlffordd ruthro allan o'i gell.
Bu farw Meirion James, 53 oed o Grymych, yn dilyn digwyddiad yng ngorsaf heddlu Hwlffordd ar 31 Ionawr 2015.
Dywedodd un heddwas wrth y cwest i farwolaeth Mr James ei fod wedi gorfod chwistrellu Mr James wrth iddo gicio'n "wyllt" at ddau gydweithiwr.
Yn ôl y Sarjant Mark Murray o Heddlu Dyfed-Powys, dim ond ar ôl i'r nwy o'r chwistrell glirio wnaeth o sylwi bod gwaed yn dod allan o gêg Mr James.
Mae'r cwest yn parhau.