Y bws piws sy'n bwydo'r digartref
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n cerdded o amgylch canol Caerdydd gyda'r nos rhwng dydd Sul a dydd Iau, mae siawns da y gwelwch chi fws deulawr piws yn teithio drwy'r ddinas.
Nid bws sy'n cludo teithwyr yw hwn, ond bws sy'n cael ei ddefnyddio fel lloches i'r di-gartref a'r rhai mewn angen yn y brifddinas.
Mae'r Prosiect Bws, fel mae'n cael ei alw, yn cael ei ddarparu gan Fyddin yr Iachawdwriaeth ac yn cael nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Aeth Cymru Fyw allan gyda'r mudiad i weld y gwaith maen nhw'n ei wneud.
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn gweithio mewn partneriaeth gyda Bws Caerdydd i gynnal y Prosiect Bws. Mae Bws Caerdydd yn trin a thrwsio'r cerbyd ac mae'n cael ei gadw yng nghanolfan Bws Caerdydd ar Heol Sloper yn ardal Lecwydd y ddinas.
Lukasz Kuziow yw rheolwr y prosiect. Mae'n wreiddiol o Warsaw ond wedi gweithio yng Nghaerdydd gyda Byddin yr Iachawdwriaeth ers 2006.
"Mae'r gwasanaeth yma'n hanfodol bwysig ac yn unigryw i Gaerdydd," meddai.
"Mae'n cynnig gwasanaeth tu allan i oriau gwaith, yn darparu bwyd, diodydd poeth, dillad ac yn trefnu lloches i bobl sydd mewn argyfwng. Rydw i mewn cyswllt â hostelau er mwyn trefnu lloches i bobl ddigartref, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn."
Bydd o leiaf dau aelod o staff a dau wirfoddolwr allan gyda'r bws ar y nosweithiau mae'n gweithredu. Dyma Carol Dacey sy'n wirfoddolwr a Stella Burns sy'n weithwr cefnogi arbenigol.
Mae'r gwasanaeth yn darparu amrywiaeth o fwyd a diod am ddim i'r anghenus, a dillad a blancedi hefyd, gyda'r bws yn cael ei lwytho yn y ganolfan fysiau yn y p'nawn.
Er bod y mwyafrif llethol o bobl ddigartref Caerdydd yn ddynion mae Lukasz Kuziow, rheolwr y fenter, yn dweud ei fod wedi gweld ychydig o newid dros y blynyddoedd diwethaf.
"Y dyddiau hyn mae oed cyfartalog y digartref wedi gostwng a 'dwi hefyd yn gweld bod lot mwy o ferched yn byw ar y stryd o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl.
"Yn y gorffennol roedd bron pawb oedd yn defnyddio'r bws ar gyffuriau ac ati, ac heb deulu. Y dyddiau yma mae 'na bobl â phlant a phobl mewn swydd yn dod aton ni."
Mae Michael, sy'n wreiddiol o Iwerddon, yn ddigartref ac yn dweud bod y gwasanaeth bws yn hanfodol: "Does yna ddim digon o wasanaethau, dim day centres na diodydd poeth a bwyd," meddai.
"Mae yna stafelloedd preifat yn y ddinas, ond does yna ddim digon i'r digartref yn y tywydd yma.
"Dwi wir yn meddwl bod y bws yma'n cadw tua 80% o'r digartref yn fyw yn y ddinas 'ma. Mae pobl yn gallu checkio ar ei gilydd gyda'r nos yma, a gwneud yn siŵr bod ni'n iawn - rydyn ni'n gofalu am ein gilydd ac am y bobl eraill sy'n ffeindio hi'n anodd yn y gymuned 'ma."
Mae'r Prosiect Bws yn rhedeg ers 2001, pan roedd Cyngor Caerdydd yn darparu'r gwasanaeth. Ers 2006, Byddin yr Iachawdwriaeth sy'n gyfrifol amdano.
Mae llefydd ar y bws i bobl eistedd a chymdeithasu dros goffi neu baned o de, gyda swyddfa yn y pen blaen y bws a stafell lle mae'n bosib yn cael chymorth meddygol. I fyny'r grisiau mae dillad a blancedi ar gael i'r digartref eu defnyddio.
Daw'r staff a'r gwirfoddolwyr i 'nabod y bobl sy'n defnyddio'r bws dros amser, ac mae Lukasz yn credu bod yr awyrgylch yn gallu bod yn ysgafn er gwaetha' sefyllfa argyfyngus rhai o'r bobl ddigartref.
Mae Shane yn dweud bod y gwasanaeth wedi bod yn hanfodol iddo.
"Mae Lukasz a'r tîm wedi fy helpu i gymaint dros y blynyddoedd," meddai.
"Mae mor anodd i reoli arian pan 'dych chi heb unlle i fyw. Mae'r bobl yma wedi dangos caredigrwydd i mi a dwi mor ddiolchgar."
Mae'r bws yn darparu bwyd a diod tu allan i adeilad eiconig Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng nghanol y ddinas.
Mae'r tri yma - Jamie, Anthony a Jamie - yn ddigartref. Meddai Jamie (ar y chwith): "Dwi 'di bod yn dod lawr yma ers bron pum mlynedd, a gallwch chi ddim rhoi pris ar y gwasanaeth yma, yn enwedig i'r rhai sy'n ddigartref fel fi.
"Oherwydd pobl fel Lukasz dwi'n cael pryd cynnes a blancedi."
Mae Jamie (ar y dde) yn cytuno: "Dwi o'r Rhondda, a does 'na ddim gwasanaeth tebyg i hwn yno.
"Dwi'n defnyddio'r bws bob dydd y daw heibio, a dwi'n codi fy het i Lukasz a'r tîm am yr hyn maen nhw'n gwneud i ni. Dyw teuluoedd hanner ohonon ni ddim yn gwneud gymaint ag mae'r rhain yn gwneud."
"Fe achubodd Byddin yr Iachawdwriaeth fy mywyd i," meddai Marc, a oedd yn defnyddio'r gwasanaeth ar un pwynt, ond sydd bellach yn gwirfoddoli.
"Rwy'n ddiabetig, ac o'n i'n cymryd cyffuriau. Ond pan nes i ddod at rhain wnaethon nhw droi fy mywyd i rownd, a dwi nôl yn siarad gyda 'nheulu. Mae'r gwasanaeth yn anhygoel, ac mae'n rhywle i ddod i gynhesu.
"Daw pobl yma i gael paned a sgwrsio gydag eraill sydd yn yr un sefyllfa. Mae 'na rwydwaith yma, os oes rhywun ar goll ac ati, ac mae'n wych bod yna yn gymorth i'n gilydd."
Mae Marc bellach oddi ar y stryd ac yn byw yn ei fflat ei hun, mae'n gweithio'n rhan-amser ac wedi dod oddi ar y cyffuriau.
"Doedd 'Dolig ddim yn hawdd ond dwi'n teimlo gymaint, gymaint gwell dyddiau 'ma," meddai.
Yn ôl Byddin yr Iachawdwriaeth y bwriad yn y pen draw yw i leihau'r niferoedd sydd yn cysgu ar strydoedd Caerdydd drwy eu cefnogi i ailadeiladu eu bywydau a'u caniatáu i symud oddi ar y stryd.
Hefyd o ddiddordeb: