Cynllun yn 'hwb i fusnesau lleol'

Bydd Machynlleth yn cynnal ymgynghoriad ynglŷn â mesurau i leihau allyriadau carbon yn yr ardal, wedi i'r dref ddatgan "argyfwng yn yr hinsawdd".

Mae'n rhan o symudiad byd eang, gyda thros 20 o drefi a dinasoedd wedi gwneud cyhoeddiadau tebyg.

Y dref farchnad ym Mhowys yw'r cyntaf yng Nghymru i ymuno yn yr ymgyrch, a bydd rhaid i gynghorwyr lleol ymateb drwy lunio cynllun o fewn chwe mis.

Mae gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau lleol a chreu clwb ceir trydan ymysg y syniadau sydd dan ystyriaeth.

Gobaith William Lloyd Williams yw y bydd y cynllun yn annog pobl i gefnogi busnesau lleol.