Teulu sy'n helpu cadw pobl Pen Llŷn yn ddiogel ar y glannau
Mae pedwar aelod o un teulu yn gweithio i gadw pobl Pen Llŷn yn ddiogel ger y glannau drwy fod yn aelodau o griw bad achub.
Ymunodd Enlli Williams gyda chriw Abersoch ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei thad, Dafydd 'Fritz' Williams, sy'n gwirfoddoli ers 1990 ac yn uwch lywiwr bad Abersoch ers 10 mlynedd.
Mae gwraig ei thad, Elissa, hefyd yn aelod ers 13 mlynedd ac mae cariad Enlli, Kyle Evans newydd ymuno ar gyfnod prawf.
Dywedodd Enlli, sy'n 22 oed ac yn astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, bod ymuno â'r un criw â'i thad yn "anrhydedd" ac "yn bleser anhygoel".
"Mae cael cyfle i hyfforddi efo Dad yn gyffrous ofnadwy. Mae o wedi bod efo'r criw yn hirach nag ydw i wedi bod yn fyw."
Dywedodd bod ganddi atgofion o'i phlentyndod cynnar o'i thad yn "rhedeg" mewn ymateb i alwadau brys, a bod nabod gymaint o'r criw ers roedd yn fach yn "rhoi hyder enfawr" iddi wrth gael ei hyfforddi.
Dywedodd ei thad ei fod "yn falch iawn o Enlli - mae'n gyfle prin i allu gwirfoddoli efo un o'ch plant.
"Mae wedi bod yn fraint i fod yn rhan [o'r RNLI] am bron i 30 o flynyddoedd, ac mae gwybod y bydd fy nheulu yn parhau efo'r traddodiad... yn gwneud fi'n falch iawn. Roedd mynd i'r môr efo Enlli ddydd Calan yn foment arbennig iawn.
Ychwanegodd bod criw Abersoch "yn ffrindia da - 'da ni fatha rhyw deulu mawr erioed".
Dywedodd Enlli mai awydd i helpu pobl oedd y prif reswm dros ymuno, a'i bod yn edrych ymlaen at gael gwneud hynny ar ddiwedd ei chyfnod prawf.