Tony ac Aloma yn gorfod ailfeddwl cynlluniau gwesty newydd
Yn dilyn y cyhoeddiad na fydd cwmni Hitachi yn bwrw 'mlaen gyda'r cynllun i adeiladu gorsaf niwclear newydd ar Ynys Môn, mae'r ddeuawd Tony ac Aloma yn gorfod ailfeddwl beth i'w wneud gyda'u gwesty newydd ar yr ynys.
Mae'r ddeuawd - ynghyd â gŵr Aloma, Roy - hefyd yn adnabyddus fel perchnogion gwesty'r Gresham yn Blackpool.
Ond ar ôl dros 30 o flynyddoedd yn diddanu ymwelwyr y dref yng ngogledd Lloegr, maen nhw wedi penderfynu gwerthu'r gwesty er mwyn paratoi at ymddeol.
Gan nad oedden nhw'n barod i roi'r ffidl yn y to yn gyfan gwbl, dywedodd Aloma Jones wrth Cymru Fyw mai'r bwriad oedd "prynu rhywle llai nôl ar yr ynys", gyda'r gobaith o ddenu gweithwyr oedd angen llety wrth i'r gwaith o adeiladu'r atomfa newydd fynd yn ei flaen.