Galw am fanteisio ar dechnoleg forol

Mae Cymru wedi colli allan ar sawl cynllun ynni morol oherwydd diffyg cefnogaeth Llywodraeth y DU, yn ôl cadeirydd y Cyngor Ynni Morol.

Dywedodd Sue Barr fod Canada a Ffrainc wedi elwa ar filiynau o bunnau o fuddsoddiad mewn cynlluniau ynni morol allai fod wedi dod i Gymru.

Yn ôl Minesto, datblygwr o Sweden sydd â'i bencadlys Prydeinig yng Nghaergybi, mae perygl y bydd Cymru'n colli cyfle euraidd i arwain yn y maes.

Mae Osian Roberts, Rheolwr Datblygu Busnes i Minesto yng Nghaergybi, yn esbonio'r dechnoleg y mae'r cwmni'n ei ddefnyddio i greu ynni o'r môr.