Hel atgofion 'melys' trwy gerddoriaeth Cymraeg

Fel rhan o Ddiwrnod Miwsig Cymru, mae Prifysgol Bangor a mudiad Merched y Wawr yn gweithio ar y cyd i greu cryno ddisg o ganeuon arbennig ar gyfer cartrefi gofal ar draws Cymru.

Mae'r ymgyrch yn rhan o waith dementia Prifysgol Bangor i wella safon bywyd pobl sydd yn byw â'r cyflwr.

Dywedodd Dr Catrin Hedd Jones bod modd gweld "newid syfrdanol" mewn pobl â dementia pan maen nhw'n gwrando ar gerddoriaeth.

Mae'r apêl yn gofyn i'r cyhoedd gysylltu gyda'u hawgrymiadau o'u hoff ganeuon Cymraeg o bob cyfnod.