Adnabyddiaeth o frand Cymru 'ledled y byd'
Rhaid blaenoriaethu'r Ddraig Goch dros Jac yr Undeb ar allforion bwyd a diod o Gymru ar ôl Brexit, yn ôl arweinwyr y diwydiant amaeth.
Rhybuddiodd Hybu Cig Cymru y gallai brandio Prydeinig ar gynnyrch fel cig oen ac eidion fod yn anfantais mewn marchnadoedd allweddol.
Mynnodd yr undebau amaeth bod 'na "botensial arbennig i ddatblygu 'Brand Cymru'".
Dywedodd Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells bod adnabyddiaeth o gynnyrch Cymru ar draws y byd.