Bysiau Biwmares: Cyngor tref yn barod i gyfaddawdu

Er nad oes dim wedi'i benderfynu'n derfynol eto, mae'n bosib y bydd rhan o'r Grîn ym Miwmares yn cael ei ddefnyddio wedi'r cwbl fel maes parcio dros dro i fysiau ymwelwyr.

Ar ôl trafod y mater am awr a hanner mewn cyfarfod arbennig nos Fawrth, mae Cyngor Tref Biwmares yn barod i gyfaddawdu.

Mewn egwyddor byddan nhw nawr yn barod i ran benodol o'r Grîn gael ei defnyddio, ond mae angen trafod y sefyllfa ymhellach gyda'r cyngor dir a'r cwmnïau bysiau, medden nhw.

Fel rhan o hynny mae disgwyl i fysiau gwag deithio drwy'r dref cyn diwedd yr wythnos i arbrofi gyda'r llwybrau teithio posib i gyrraedd y Grîn.

Mae'r opsiwn o barcio'r bysus ar ochr y lon rhwng Gwesty'r Buckeley a'r Fenai yn dal dan ystyriaeth hefyd, fel y clywodd Dafydd Gwynn.