Heddlu'r De yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn 76 oed

  • Cyhoeddwyd
Safle ymchwiliad llofruddiaeth Cimla
Disgrifiad o’r llun,

Plismyn yn Lime Grove, Cimla fel rhan o'r ymchwiliad i'r farwolaeth

Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth dyn 76 oed yn ardal Castell-nedd.

Cafodd eu galw i eiddo yn Lime Grove, Cimla tua 21:25 dydd Iau, ar ôl adroddiadau o gynnwrf.

Mae dyn 27 oed wedi ei arestio ac yn cael ei holi yn y ddalfa.

Dywedodd llefarydd fod plismyn yn parhau ar y safle, a bod ymholiadau yn parhau.

Dywedodd y ditectif prif arolygydd Darren George: "Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau ac mae ystafell ymchwiliad benodol wedi ei sefydlu.

"Rwy'n apelio am dystion sydd o bosib wedi gweld neu glywed unrhyw beth yn ardal Lime Grove, Cimla, rhwng 19:00 a 21:30 ddydd Iau i gysylltu â ni.

"Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 1900056210."