Cyn-blismon wnaeth ddwyn gan y llu i orfod ad-dalu £25,000
- Cyhoeddwyd
Bydd rhaid i gyn-blismon gafodd ei garcharu am ddwyn o Glwb Athletau Heddlu De Cymru dalu dros £25,000 yn ôl, wedi gorchymyn llys.
Cafodd y Cwnstabl Justin Lott, 40, ei garcharu ym mis Gorffennaf y llynedd am ddwyn yr arian o glwb athletau'r llu - arian oedd yn cynnwys cronfa oedd wedi ei sefydlu i helpu plismon oedd yn dioddef o ganser.
Yn Llys y Goron Caerdydd fe wnaeth y Cofiadur Eleri Rees orchymyn ei fod yn ad-dalu £25,765.66 o fewn 12 mis.
Fe wnaeth y cyn-blismon ddwyn yr arian tra'n gweithredu fel ysgrifennydd Clwb Athletau Adran Ganolog Heddlu De Cymru.
Clywodd y llys fod Lott wedi dwyn teledu, cyfrifiadur ac arian - gyda'r cyfanswm dros £30,000 - rhwng Chwefror 2012 ac Ebrill 2016.
Dywedodd Jonathan Rees, ar ran yr amddiffyniad fod Lott, o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi mynd i ddyled o dros £326,000 a'i fod wedi dioddef o iselder am sawl blwyddyn.
"Roedd mewn dyled, ei fwriad oedd ad-dalu'r arian ond wrth i'w iechyd a'i sefyllfa ariannol ddirywio fe aeth y sefyllfa allan o reolaeth," meddai.
Cafodd Lott ei garcharu am 16 mis y llynedd gyda'r barnwr yn dweud ar y pryd fod hyn yn enghraifft o'r "math waethaf o anonestrwydd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2018