Ken Owens: 'Cadw swyddi yw'r peth pwysicaf'

Mae chwaraewyr rygbi proffesiynol yn poeni'n ofnadwy am gynlluniau i ad-drefnu rhanbarthau Cymru, yn ôl y corff sy'n diogelu lles a hawliau chwaraewyr yng Nghymru.

Daw datganiad Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA) wrth i'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) drafod y posibilrwydd o uno'r Scarlets a'r Gweilch a chreu rhanbarth newydd yn y gogledd.

Does dim penderfyniad terfynol wedi ei wneud hyd yma, ond mae nifer o ffigyrau amlwg o fewn y gêm wedi mynegi eu pryder am yr uno posib.

Dywedodd Ken Owens, bachwr Cymru a'r Llewod sydd hefyd yn gadeirydd ar yr WRPA: "Dyma'r sefyllfa anoddaf i mi ac eraill ei wynebu yn ystod fy ngyrfa."

Ychwanegodd Owens mai'r peth pwysicaf yw sicrhau bod chwaraewyr proffesiynol yn cadw eu swyddi yn sgil yr ad-drefnu.