Cyngor 'methu bodloni' galw am addysg Gymraeg
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd wedi dweud ei fod yn disgwyl y bydd pedwaredd Ysgol Uwchradd Gymraeg yn cael ei hagor yn y ddinas o fewn degawd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Huw Thomas wrth raglen Manylu BBC Radio Cymru y bydd Ysgol Plasmawr hefyd yn cael ei ehangu o fewn y ddwy flynedd nesa'.
Daw hyn wedi galwadau gan ymgyrchwyr a gwleidyddion i fynd i'r afael â'r prinder llefydd mewn addysg Gymraeg yn y brifddinas.
Mae Mabli Jones o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhybuddio y gallai rhai disgyblion beidio cael addysg yn yr iaith oni bai bod cynnydd mewn llefydd.