Darganfod lluniau Tad-cu: Taith drwy lygad y camera

  • Cyhoeddwyd
Cai MorganFfynhonnell y llun, Cai Morgan

Yn ddiweddar, fe ddaeth Cai Morgan, ffotograffydd, fideograffydd ac un o gyflwynwyr gwasanaeth Hansh, o hyd i gasgliad o ffotograffau gan ei dad-cu oedd yn croniclo bywyd teuluol mewn pentref ym Mhowys dros gyfnod o 70 mlynedd.

Mae darganfod y lluniau wedi gwneud i Cai sylweddoli faint o ddylanwad oedd ei dad-cu, Eirwyn Walters, ar ei ddiddordeb ei hun mewn ffotograffiaeth.

Mae'n rhannu ei atgofion a rhai o'r lluniau mae bellach yn eu trysori gyda Cymru Fyw.

Roedd fy nhad-cu o Lanelli yn wreiddiol, ond ar ôl dal tuberculousis ar ddiwedd y 1940au, cafodd ei gludo i ysbyty oedd yn arbenigo yn y clefyd ym Mronllys, pentre bach ger Talgarth yn y Mynyddoedd Duon.

Dyna lle 'naeth e gwrdd â fy mam-gu oedd yn nyrs yn yr ysbyty, ac ar ôl iddo gwympo mewn cariad â hi, 'aeth e byth nôl i Lanelli. Cafodd swydd yn yr ysbyty fel peiriannydd Pelydr-X a dyna sut cwympodd e mewn cariad gyda'r broses o dynnu llun.

Ffynhonnell y llun, Cai Morgan

Roedd fy nhad-cu yn ddylanwad mawr arnai, heb i fi wybod. Yn aml tra yn mynd am dro i gerdded y ci fel plentyn, roedd yn rhoi gwersi cyflym i fi ar wahanol agweddau o ffotograffiaeth a rhannu egwyddorion sylfaenol y grefft.

Un o'r negeseuon sy'n sefyll allan fwyaf hyd heddiw yw: "Dim beth sydd yn y llun sy'n bwysig, ond beth sydd ddim yn y llun."

O'n i byth yn deall y syniad yna tan i fi bigo lan camera fy hun yn fy arddegau. Mae'n hawdd i orfeddwl pethau tra'n tynnu llun ac mae'r broses o reverse engineering yn bwysig iawn.

Ffynhonnell y llun, Eirwyn Walters

Dyma lun o Fynydd Troed (Haf 1975) yn y Mynyddoedd Duon. Dyma'r olygfa tua'r dwyrain o bentre Bronllys.

Roedd yn defnyddio'r mynydd yma fel gwrthrych i ymarfer fframio tra'n rhoi gwersi bach i fi fel plentyn. Dwi 'di tynnu llun o'r mynydd yma cannoedd o weithiau yn fy mywyd oherwydd 'ny!

Ffynhonnell y llun, Eirwyn Walters

Dyma lun o Mam (dde), Wncl Alun (canol) a'u cefnder Stuart (chwith) ar ben Mynydd Troed 1979. Dwi wrth fy modd gyda'r llun yma, mae'n teimlo fel poster ffilm.

Ffynhonnell y llun, Eirwyn Walters

Roedd carafanio yn rhan mawr o fywydau Mam-gu a Tad-cu, a Phorthcawl oedd lle bydden nhw'n mynd yn flynyddol trwy gydol eu bywydau. Dyma Mam-gu a Tad-cu (canol), rhieni Tad-cu ar y chwith a mam Mam-gu ar y dde, yn Sandy Bay, Porthcawl 1956.

Ffynhonnell y llun, Eirwyn Walters

Hwn yw un o fy hoff luniau o'r miloedd dwi wedi gweld gan fy nhad-cu. Wncwl Gareth (chwith), Nigel ffrind y teulu (canol), Wncwl Alun (dde). Llun naturiol o fois direidus yn chwarae yn yr ardd gefn.

Ffynhonnell y llun, Eirwyn Walters

Wrth i fy nhad-cu fynd yn fwy profiadol fel ffotograffydd, fe ddaeth yn ffotograffydd swyddogol y pentre. Roedd yn tynnu lluniau o holl ddigwyddiadau'r ardal, yn cynnwys ffair y pentre, lluniau dosbarth yr ysgol a phriodasau hefyd.

Fe gymrodd lluniau priodas ei hunan hyd yn oed! Dyma'r teulu i gyd tu allan i'r capel ym Mronllys yn 1955.

Ffynhonnell y llun, Eirwyn Walters

Roedd gaeaf 1963 yn enwog am yr eira ofnadwy o arw wnaeth gwympo dros Gymru. Dyma ddau lun hynod o drawiadol cymrodd fy nhad-cu tra'n mynd am dro gyda Mam-gu, Gareth y babi a Flash y ci.

Ffynhonnell y llun, Eirwyn Walters
Ffynhonnell y llun, Eirwyn Walters

Roedd fy Nhad-cu wir yn arbenigo mewn lluniau naturiol o bobl, bron a bod fel doedd y bobl yn y lluniau ddim yn gwybod bod e yna. Mae hwn yn rhywbeth mawr dwi'n trio sianelu yn fy ngwaith bob dydd.

Dyma Mam-gu, Rosemary ffrind y teulu, Megan chwaer Mam-gu a Tiny y ci mewn parti tŷ rhywbryd yn yr 1950au hwyr.

Ffynhonnell y llun, Eirwyn Walters

Dyma bortread cymrodd Tad-cu o Mam a Barney y ci yn sefyll wrth y gât ffrynt ym Mronllys. Dwi'n caru'r agwedd naturiol sydd yn y llun yma.

Ffynhonnell y llun, Eirwyn Walters

Roedd ffeiriau pentref yn hynod o bwysig mewn ardal wledig fel Bronllys. Cyfle i'r gymuned i ddod at ei gilydd, mwynhau, codi arian i elusennau a phrynu cynnyrch lleol. Dyma lun gwych o Aunty Betty, Mrs Price a Mrs Mosses yn ffair Bronllys yn y 70au cynnar. Dwi wrth fy modd gyda pha mor smart mae pawb wedi gwisgo yn y llun yma.

Ffynhonnell y llun, Eirwyn Walters

Yn hwyrach yn yr 1980au a 1990au cynnar trodd fy nhad-cu i gymryd mwy o ffotograffiaeth panoramic. Dyma un o'r goreuon yn fy marn i, o Basil, Mam-gu a Betty [ffrindiau Mam-gu a Tad-cu] yn cerdded lawr y pier yn Blackpool yn 1989.

Dwi'n caru'r ffaith bod e wedi llwyddo i ddal yr hofrennydd yn y cefndir hefyd - amseru perffaith.

Llwyddodd fy nhad-cu i greu dros 2500 o sgans electronig, ond ers darganfod y casgliad yma dwi 'di darganfod bod 'na gasgliad anferth arall yn ei atig sydd heb ei sganio eto. Dwi methu aros i weld pa drysorau eraill sydd heb eu gweld eto.

Hefyd o ddiddordeb: