Canser: 'Da siarad â phobl sy'n mynd trwy'r un peth'

Mae defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i drafod effaith triniaeth canser gydag eraill yn llawer o help, yn ôl dynes ifanc o Sir y Fflint.

Yn 19 ac o'r Wyddgrug, mae Grace Parry wrthi'n cael cemotherapi a radiotherapi am Lymffoma Hodgkin.

Ond dydy'r canser ddim yn ei hatal rhag bod yn weithgar - mae wedi codi £6,500 i elusennau ers iddi gael ei diagnosis ym mis Ionawr 2019.