'Rheolau pitw' yn fygythiad i bêl-droed llawr gwlad
Mae gan glybiau sy'n cystadlu yn nhrydedd haen o bêl-droed yng Nghymru tan 30 Ebrill 2020 i gydymffurfio â chanllawiau newydd, neu wynebu disgyn i gynghreiriau is.
Dau glwb sy'n pryderu am eu dyfodol yw Llanrug a Llanberis. Gyda dim ond pedair milltir rhwng y ddau bentref mae dyfodol y ddau dîm yn y drydedd haen yn ansicr.
Ymgais Cymdeithas Bêl-droed Cymru yw ceisio "codi safonau ac i wneud y meysydd yn fwy cyfforddus ac yn fwy diogel. Dyma'r cam naturiol o geisio cyrraedd y canllawiau ar gyfer yr ail haen."
Ond yn ôl rhai o'r cefnogwyr, mae "rheolau pitw" yn fygythiad i'r gamp ar lawr gwlad Cymru.