Oriel: Gwobrau Gwerin Cymru 2019
- Cyhoeddwyd
Nos Iau, 11 Ebrill 2019, cafodd seremoni Gwobrau Gwerin Cymru ei chynnal, a hynny am y tro cyntaf.
Roedd Neuadd Hoddinott ym Mae Caerdydd yn fwrlwm o gerddoriaeth a hwyl wrth i'r noson ddathlu'r artistiaid gorau o'r sîn werin Gymreig.

Trials of Cato yn perfformio. Enillodd y band, sydd ag aelodau o ogledd Cymru a Sir Efrog, wobr yr Artist neu Fand Gorau Sy'n Dechrau Dod i'r Amlwg

I adlewyrchu tarddiad gwerinol y gerddoriaeth, mae'r gwobrau wedi eu seilio ar hen ganwyllbrenni brwyn fyddai'n cael eu defnyddio i ddal canhwyllau brwyn ers talwm

Yr Artist Unigol Gorau, Gwilym Bowen Rhys, yn dathlu gefn llwyfan

Jordan Price Williams o'r band VRï yn mynd amdani

Oedd digon o le ar y llwyfan i holl aelodau'r band Pendevig?

Martyn Joseph a enillodd y wobr am y Gân Saesneg Wreiddiol Orau am 'Here Come The Young'

Patrick Rimes ac Angharad Jenkins yn perfformio fel rhan o Calan

Dylan Fowler, o'r band Alaw, yn derbyn y wobr Trac Offerynnol Gorau am Dawns Soïg / Dawns y Gŵr Marw

Y dwylo dibynadwy, Frank Hennessy a Lisa Gwilym - cyflwynwyr BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru - oedd yn llywio'r noson. Roedd un o gyflwynwyr eraill Radio Wales, Janice Long, yn cyflwyno un o wobrau'r noson

Roedd Bethan Rhiannon ar ben ei digon wrth dderbyn y wobr am y band gorau, ar ran Calan

Enillodd VRï ddwy wobr - am y gân draddodiadol orau a'r albym gorau

Cafodd Roy Saer wobr am gyflawniad oes
Rhestr enillwyr Gwobrau Gwerin Cymru 2019
Y Gân Gymraeg Draddodiadol Orau
Ffoles Llantrisant - VRï
Y Gân Saesneg Wreiddiol Orau
Here Come The Young - Martyn Joseph
Y Gân Gymraeg Wreiddiol Orau
Bendigeidfran - Lleuwen
Y Trac Offerynnol Gorau
Dawns Soïg / Dawns y Gŵr Marw - Alaw
Yr Artist / Band Gorau Sy'n Dechrau Dod i'r Amlwg
The Trials of Cato
Yr Artist Unigol Gorau
Gwilym Bowen Rhys
Yr Albwm Gorau
Tŷ ein Tadau - VRï
Y Perfformiad Byw Gorau
Pendevig
Y Grŵp Gorau
Calan
Y Wobr Gwerin
Huw Roberts
Gwobr Cyflawniad Oes
Roy Saer
Hefyd o ddiddordeb: